Trefnydd: Eirian Davies, Ffôn 01792 844821 Symudol 07484 107161.
Cychwynnir pob taith am 10.30 y bore, oni nodir yn wahanol. Dim cŵn ar y teithiau ac eithrio cŵn tywys.
Edrychwch at y wefan hon a thudalen Gweplyfr, Cymdeithas Edward Llwyd, am unrhyw newid mewn trefniadau.
Rhaglen mis Rhagfyr
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
7 Rhag 2024 [Canslo oherwydd y tywydd] | Cronfeydd Lliw, Felindre (Abertawe) - Canslo | Dilyn Llwybr y Bugail at y cronfeydd dŵr. Dychwelyd ar hyd yr heol. Llwybrau cadarn, peth dringo yma ac acw. Cylchdaith tua 7 milltir | Neuadd Bentref Felindre SA5 7NA (agosaf) [Canslo oherwydd y tywydd garw] | SN638025 | Rob Jones 01792845852 |
14 Rhag 2024 [Angen archebu] | Ardal Llangrannog | Cylchdaith fer yn y bore wedyn Cinio Nadolig yn y Pentre Arms, Llangrannog. Bwydlen yma- https://pentrearms.co.uk/wp-content/uploads/2023/11/Christmas-Menu-2023.pdf Enwau a dewisiadau o’r fwydlen i Gareth erbyn 7/12/24 Nifer cyfyngedig, cyntaf i’r felin! | Maes parcio cyhoeddus Llangrannog, trowch i’r chwith ar ôl pasio’r eglwys | SN315538 | Gareth Jones 01239 654309 |
21 Rhag 2024 | Dim Taith | Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda. | |||
28 Rhag 2024 | Dim Taith | Wedi pedair blynedd ar ddeg fel trefnydd y mae Eirian wedi penderfynu ‘rhoi’r tŵls ar y bar’. Llawer o ddiolch iddo am ei waith a’i ddyfalbarhad tros y blynyddoedd a phob hwyl i’w olynydd, Gareth Jones.( HMJ). |
Rhaglen mis Ionawr
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
4 Ionawr 2025 | Ardal Ynysgynwraidd (Skenfrith) | Cylchdaith tua 7 milltir o Gastell Ynysgynwraidd, dilyn Afon Mynwy heibio hen eglwys Llanrothal ac yn ôl drwy goedwig fytholwyrdd. Gorffen gyda dringfa serth yn ôl i’r pentref | Maes Parcio Castell Ynysgynwraidd NP7 8UH | SO457203 | Mark Humphries 07972193539 |
11 Ionawr 2025 | Ardal Pwll Du, Penrhyn Gwyr | Gwahoddiad i ymuno a theithiau’r Wennol yn ardal Pwll Du a chael hanes y bae anghysbell yma a dod i adnabod dysgwyr brwd Abertawe. Tua 4-5 milltir, tipyn o ddringo | Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Southgate, tal. SA3 2DH | SS554874 | Rob Evans 07880628653 |
18 Ionawr 2025 | Taith i’w threfnu | ||||
25 Ionawr 2025 | Taith i’w threfnu |
Fe drefnir Teithiau Maes ychwanegol yn fuan; cadwch olwg ar y wefan hon a thudalen Gweplyfr y Gymdeithas.
Rhaglen mis Tachwedd
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
2 Tach 2024 | Ardal Llynnoedd Cwmtyleri | Taith gymedrol, tua 4 milltir | Maes parcio Llynnoedd Cwmtyleri. NP131LU | SO217060 | Ena Morris 07890611737 |
9 Tach 2024 | Ardal Llansteffan [Taith Amgen] | Cylchdaith tua 5 milltir, llwybrau cadarn/ traeth/ heolydd, peth dringo yma ac acw. | Maes parcio Water Lane ar waelod Water Lane, ger y traeth, nid y maes pacio ger y castell. SA33,5LL | SN354108 | Eirian Davies01792 844821 |
16 Tach 2024 | Llanharan | Cylchdaith tua 7 milltir i fyny i’r mynydd uwchben Llanharan. Dilyn Ffordd y Bryniau i adfeilion Eglwys Llanbedr ar y Mynydd a nôl heibio’r hen waith glo De Rhondda a choedwigoedd Brynnau. | Maes parcio gorsaf y rheilffordd. CF729QA | ST000830 | Richard Davies 07986562584 |
23 Tach 2024 Canslo oherwydd y tywydd | Ardal Pwll Du, Penrhyn Gwyr (Canslo) | Gwahoddiad i ymuno a theithiau’r Wennol yn ardal Pwll Du a chael hanes y bae anghysbell yma a dod i adnabod dysgwyr brwd Abertawe. Tua 4-5 milltir, tipyn o ddringo | Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Southgate, tal. SA3 2DH Canslo oherwydd y tywydd | SS554874 | Rob Evans 07880628653 |
30 Tach 2024 Taith wedi ei chanslo | Ardal Ynysgynwraidd (Skenfrith) Dim Taith | Cylchdaith tua 7 milltir o Gastell Ynysgynwraidd, dilyn Afon Mynwy heibio hen eglwys Llanrothal ac yn ôl drwy goedwig fytholwyrdd. Gorffen gyda dringfa serth yn ôl i’r pentref | Maes Parcio Castell Ynysgynwraidd NP7 8UH Taith wedi ei chanslo | SO457203 | Mark Humphries 07972193539 |
Rhaglen mis Hydref
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
4 Hydref 2024 | Cynhadledd Flynyddol 2024 Gwesty’r Faenol Fawr, Bodelwyddan | Manylion y Gynhadledd ar wefan y Gymdeithas. Dilynwch y ddolen hon; Cynhadledd | Gwesty’r Faenol Fawr, Bodelwyddan | SJ002765 | |
12 Hydref 2024 | Ardal Caerwedros a Chwmtydu. | Cylchdaith gymedrol tua 6 milltir trwy Gwm Soden i Gwmtydu gan gynnwys ychydig o Lwybr yr Arfordir. Peth dringo yma ac acw. Gall rhai mannau fod yn wlyb. | Maes parcio Neuadd Caerwedros SA44 6BS Troi oddi ar yr A487 ger Eglwys Gwenlli (rhwng pentrefi Synod a Phlwmp) am Gaerwedros gan ddilyn yr heol am 2 filltir. Mae'r Neuadd ar y dde wedi croesi'r sgwâr | SN374559 | Marina James 01545571045 07814868573 Beti Davies 07807730534 |
19 Hydref 2024 | Y Deri, Pen y Fâl a Pharc Ceirw’r Fenni | Golygfeydd godidog dros y Mynydd Du a Dyffryn Wysg. Dringo Twyn yr Allt ac yna ar hyd cefn gwastad y Deri, dringad serth ond byr i gopa mynydd Pen y Fâl. Dychwelyd hyd Nant Cybi trwy barc ceirw arglwyddi Normanaidd y Fenni. 7.5milltir, egnïol | Maes Parcio gyferbyn ag Ysgol Deri View, Y Fenni NP7 6AR | SO301156 | Frank Olding 01873856959 |
26 Hydref 2024 | Darn o lwybr cyn oesol ? Carreg Lwyd a Charreg Cadno? | Taith fynyddig tua 6 milltir. Dringo i’r Garreg Lwyd i ddechrau. | Maes parcio Penwyllt SA9 1GQ (Agosaf) | SN856155 | Arwel Michael 01639844080 |
Rhaglen Gŵyl y Fenni
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
13 Medi 2024 tan 16 Medi 2024 | Gŵyl y Fenni | Cyfres o deithiau yn ardal y Fenni Ymunwch am ddiwrnod neu ddau neu dri neu fwy. Teithiau amgen os bydd y tywydd drwg. | Pawb i drefnu llety eu hunain. | SO298146 | Manylion gan John Griffith john@cymdeithas edwardllwyd.cymru |
12 Medi 2024 7.00 yr hwyr | Lamb and Flag Llanwenarth | Cyfarfod cymdeithasol answyddogol am sgwrs a pryd o fwyd. Bwydlen gweler gwefan y L&F. Rhowch wybod i David neu John os ydych yn bwriadu swpera yn y L&F | Maes parcio'r Lamb and Flag [ar yr A40 tua hanner filltir i'r Gorllewin o'r Fenni] Cyfarfod tua 7.00 yh | SO281153 | David Roberts 01873850309 07301280892 John Griffith john@cymdeithas edwardllwyd.cymru |
13 Medi 2024 | Safle Treftadaeth y Byd, Blaenafon | Golwg ar y ddaeareg sylfaen diwydiant yr ardal. Archaeoleg ddiwydiannol ac adfer natur, golygfeydd eang. Tir mynyddig, hen reilffyrdd, llwybrau troed a thir agored. Codi cymedrol, posib yn fwdlyd, merlod gwyllt? 6-7 milltir | Maes parcio Pwll Pen-ffordd (Keeper's Pond) Oddiar y B4246. Rhannu ceir i ddechrau’r daith 3Gair prociaf.rhimyn.dychwelyd | SO254107 | David Roberts 01873850309 07301280892 Jeff Davies 01873856836 07854777019 |
14 Medi 2024 | Allt yr Esgair | Tirwedd hanesyddol gyda golygfeydd gwych. Llwybrau cyffredinol da, un darn cymharol serth. Dod i lawr drwy goedydd. 5-6 milltir | Beacons Farm Shop / Welsh Venison Centre Parcio am ddim. 3Gair arwyddair.rhybuddio.twristiaid | SO138227 | David Roberts 01873850309 07301280892 Jeff Davies 01873856836 07854777019 |
15 Medi 2024 | Cwm Olchon | Hanes a thirwedd. Ymweld a nifer o safleoedd (gyda ceir) cerdded i fynnu Crib y Garth (serth). 3-4 milltir. | Maes Parcio Byfield Lane, Y Fenni – oddi ar Stryd Porth Tudur/ Tudor Street. Rhannu ceir i drafaelio (17m) i gwm Olchon. 3Gair Dyddiaduron.deial.penderfynaf | SO297141 | David Roberts 01873850309 07301280892 Jeff Davies 01873856836 07854777019 |
16 Medi 2024 | Glanfa Goetre ac Ystad Llanofer | Cylchdaith Llwybr y gamlas i Ystâd Llanofer. pentre’ Rhyd-y-meirch, Tre Elidir, capel Hanover cell Sant Gofer, Eglwys Sant Bartholomeus. Tir amaethyddol a llwybrau caled, ychydig o godi, gwartheg? 7 milltir | Maes parcio Glanfa Goetre 3Gair symudedd.clodwiw.moeth | SO312065 | David a Ruth Roberts 01873850309 07301280892 Jeff Davies 01873856836 07854777019 |
17 Medi 2024 (Bore) | Tref y Fenni | Golwg ar safleoedd hanesyddol y dref Taith drefol a’r dolydd cyfagos 1-2 filltir. (Taith amgen / ar gais mynychwyr yr Wŷl) | Maes Parcio ger gorsaf y bysiau. 3Gair cysylltaf.dringais.graddiant | SO301141 | David Roberts 01873850309 07301280892 Jeff Davies 01873856836 07854777019 |
Rhaglen mis Medi
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
7 Medi 2024 | Ardal gweithfeydd plwm Tir y Goron, Ystumtuen, Cwm Rheidol a Phontarfynach | Taith gymedrol tua chwe milltir ( un darn serth o tua 100 llath) Bydd cyfle i fyrhau'r daith os bydd angen. | Ysbyty Cynfyn ar yr A4120 (rhwng Ponterwyd a Phontarfynach) | SN753791 | Rees Thomas 07838259313 |
14 Medi 2024 | Allt yr Esgair - Gweler Gŵyl y Fenni isod | Mae’r daith yma yn rhan o Ŵyl Y Fenni, gweler rhaglen yr Wŷl Dilynwch y ddolen: Gŵyl | Beacons Farm Shop / Welsh Venison Centre Parcio am ddim. 3Gair arwyddair.rhybuddio.twristiaid | SO138227 | Jeff Davies 01873856863 |
21 Medi 2024 | Ardal Llanmadog | Cylchdaith tua 6 milltir yn dilyn Llwybr Yr Arfordir (gall fod yn fwdlyd.) Wedyn drwy Gwm Cheriton a dringo (ambell fan serth) i fyny i’r Bulwark, hen fryngaer. Llwybrau mynyddig a golygfeydd arbennig. | Maes Parcio Cwm Ivy ym mhen pellaf pentref Llanmadog. Tâl £2 SA3 1DJ | SS440934 | Eirian Davies 01792844821 |
28 Medi 2024 | Y Rhws – Y Barri Nodwch amser dechrau’r daith | Taith linellol tua 5 milltir a fydd yn dilyn Llwybr Yr Arfordir . Llwybrau cadarn ar y cyfan ond un man serth gyda nifer o stepiau | Maes Parcio gorsaf rheilffordd Y Barri i ddal trên 10.04 i’r Rhws, cerdded yn ôl. CF62 7AE | ST107672 | Huw a Heulwen Jones 02920843835 |
Rhaglen mis Awst
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
3 Awst 2024 | Dim Taith | ||||
3 Awst 2024 hyd 10 Awst | Eisteddfod Genedlaethol Pabell y Gymdeithas | Croeso i bawb gymdeithasu, cael golwg ar ein harddangosfa ac ymaelodi! | Maes yr Eisteddfod Pabell 105-106 3gair nepell o ecoleg.heddwch.bwriad | ST07518990 | Ein gwirfoddolwr brwdfrydig |
7 Awst 2024 Dydd Mercher (4.00-5.00) | Darlith yr Eisteddfod ‘Yr Argyfwng Hinsawdd: mae’n amser deffro’ | Maes yr Eisteddfod Pabell y Cymdeithasau 1 | Darlithydd Athro Siwan Davies Prifysgol Abertawe | ||
8 Awst 2024 Dydd Iau 10.30 – 2.30 | Taith Faes yr Eisteddfod Ardal Pontypridd | Ymweld â rhai o safleoedd hanesyddol y dref. Ardaloedd Pwllgwaun a Maesycoed. Taith hamddenol, llwybrau cadarn, dringo esmwyth. 5milltir | Ail fynediad i’r Eisteddfod, pont droed pen yr orsaf i Taff St. ger Siop B&M Dychwelyd tua 2.30 | ST072899 | Alan Williams 07989451348 |
10 Awst 2024 | Dim Taith | ||||
17 Awst 2024 | Dim Taith | ||||
24 Awst 2024 | Dim Taith | ||||
31 Awst 2024 | Dim Taith |
Rhaglen mis Gorffennaf
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Parcio | Cyf. Grid | Arweinydd |
6 Gorff 2024 | Aberhonddu | Cylchdaith ffigwr 8 tua 7.5 milltir (felly bydd modd gwneud hanner y daith os dymuner). Bach o ddringo cymedrol ar ran gyntaf y daith. Ail hanner yn wastad, yn dilyn y gamlas a’r Wysg. | Maes parcio Theatr Brycheiniog Tâl £3.80 (Arian parod - dim newid) LD3 7EW | SO046281 | Eirian Davies 01792844821 |
13 Gorff 2024 Erbyn 10.15 | Cei Landshipping. | Cylchdaith o 6.5 milltir Glannau Afon Daugleddau, treftadaeth ddiwydiannol y diwydiant glo .. Daw'r hanes yn fyw wrth i brydferthwch y fro gydfodoli gyda thristwch dirdynnol trychineb Landshipping. Heolydd, llwybr yr arfordir, caeau. Cymharol wastad, ychydig o ddringo | Maes parcio Coed Canaston erbyn10.15 ble byddwn yn rhannu ceir gan fod parcio'n gyfyngedig ar y Cei yn Landshipping. O gyfeiriad Caerfyrddin ar yr A40, troi i’r chwith ar gylchfan Pont Canaston (arwydd i Oakwood), i fyny’r tyle am ryw ¾ milltir, maes parcio ar y chwith. SA67 8DE (agosaf) | SN074140 | Gareth Jones 01239654309 |
20 Gorff 2024 Erbyn 10.15 | Ardal Myddfai | Cylchdaith tua 6 milltir gyda pheth dringo serth ar y dechrau. Fe fyddwn yn ymweld ar eglwys i gael hanes Meddygon Myddfai. | Gan fod y parcio yn gyfyngedig ym Myddfai fe fyddwn yn cwrdd am 10.15 ym mhrif faes parcio Llanymddyfri, sydd ger y castell, i rannu ceir. Tâl £1.70. SA20 0AW | SN767342 | Audrey Price 01550721612 Brenda Rees 01558822060 |
27 Gorff 2024 | Felindre Farchog a Beifil | Cylchdaith oddeutu 5 milltir o hyd. Hanes a phrydferthwch glannau Afon Nyfer. Cawn weld adeiladau hanesyddol a meini hynafol, rhan annatod o’r dirwedd. Un ddringfa fer serth ar ddechrau’r daith gyda phum sticil. | Maes parcio Tafarn y Salutation ynghanol pentref Felindre Farchog. Cod Post SA413UY (Gan mai hon yw taith olaf y tymor, y bwriad yw galw am ddiod neu luniaeth ysgafn yn y Salutation wedi’r daith.) | SN100390 | Gareth Jones/Hedd Ladd 01239654309 |
Rhaglen mis Mehefin
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man cyfarfod | Cyf. Grid | Arweinydd |
1 Meh 2024 | Llandybie | Cylchdaith tua 6 milltir, peth dringo yma ac acw, llwybrau cadarn ond am 2 gae lle gellir fod yn fwdlyd. | Maes parcio gorsaf reilffordd Llandybie. SA183UL | SN619154 | Peter Evans 01269832204 |
8 Meh 2024 Cychwyn 10.15 | Taith Lenyddol Bro Cranogwen Llangrannog [Manylion wedi newid] | Dringfa raddol ar y cychwyn rhwng Pontgarreg a Capel y Wig, gweddill y daith yn disgyn tuag at Langrannog. Wedi inni gael ychydig o goffi a hufen ia ym mhentref Llangrannog Dychwelyd i’r ceir ym maes parcio uchaf Llangrannog. Tua 6 milltir. | Maes parcio Neuadd Pontgarreg (Symud rhai ceir i Langranog ) Cyfarfod 10.15 SA446AL (agosaf) | SN337542 | Gareth Jones 01239654309 |
15 Meh 2024 | Ardal Llanfair Clydogau | Cylchdaith 6 milltir gydag ymweliad â Beddau'r Cariadon, a Nentydd Clywedog. Un ddringfa | Parcio ger Eglwys Llanfair Clydogau SA488LD (agosaf) | SN624512 | Alun Jones 01570423231 Geoff Davies |
D.S. Taith wed'i chanslo | Cronfeydd Lliw, Felindre (Abertawe) | Cylchdaith tua 7 milltir o amgylch y cronfeydd dŵr. Llwybrau cadarn ond am ryw 2 milltir lle fyddwn yn cerdded ar lwybrau mynyddig. Dringo yma ac acw. | Maes parcio Cronfa Ddŵr Lliw (isaf). Tal, (£2.50, cerdyn yn unig) SA66PF (agosaf) | SN649033 | Rob Jones 01792 845852 |
29 Meh 2024 | Ardal Alltwen a Choed Cwmtawe [D.S Mae'r daith i'r Ardd Fotaneg Genedlaethol wedi'i chanslo] | Cylchdaith tua 7 milltir, peth dringo (ambell fan serth) yn y bore tuag at ardal Cilybebyll. Wedyn i lawr drwy’r goedwig i ymuno â’r hen reilffordd, sydd nawr yn llwybr beicio yn ôl i Bontardawe. Llwybrau cadarn ar y mwyaf, ond mae’r ffordd i lawr drwy’r goedwig yn gul a garegog ag yn debygol o fod yn llithrig, felly dewch â ffon | Parcio ym mae bysiau Ysgol Cwmtawe, Pontardawe. Troi ar y gylchfan ar yr A474 ger siop Farmfoods,a heibio Lidl I lawr tua’r ysgol. SA8 4EG | SN720036 | Eirian Davies 01792 844821 |
Rhaglen Mis Mai
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. Grid | Arweinydd(ion) |
4 Mai 2024 | Mynydd Bach a Llyn Eiddwen | Cylchdaith o 5-6 milltir ym mro mebyd Prosser Rhys a lleoliad Rhyfel y Sais Bach. Peth dringo cymedrol ac ychydig o dir gwlyb | Ger ffermdy Rhydfudr a Chapel Moreia ar y B4576 rhwng Llangwyryfon a Bethania | SN596671 | Rheinallt Llwyd 01970617587 07792997806 |
11 Mai 2024 | Archaeoleg Ucheldir Blaenau Gwent | Bwrdd y Dug, tramffordd Bryn Oer, twmpathau claddu cyn-hanesyddol ac Ogof y Siartwyr. Cymedrol, ambell lwybr mynyddig. 6 milltir | Tafarn Tŷ Uchaf, Trefil. NP224HG | SO119128 | Frank Olding 01873856959 |
18 Mai 2024 | Fan Gyhirich | Dilyn yr hen dramffordd i Bwll Byfre ac ymlaen i gopa’r mynydd. Llwybr yr holl ffordd, dringo esmwyth. Golygfeydd gwych. 7 milltir. | Maes parcio Penwyllt; ar yr A4067, troi i’r dde o gyfeiriad pentref Penycae, arwydd brown ‘Gwarchodfa Natur.’ Còd Post agosaf SA91GE | SN856155 | Arwel Michael 01639844080 |
25 Mai 2024 | Llwybr Taf | Dilyn rhan o Lwybr Taf rhwng Abercynon a Phontypridd, Cyfle i weld rhan o dre Pontypridd, cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Dychwelyd i Abercynon ar y trên. Dim dringo, hamddenol tua 5 milltir. | Maes Parcio Gorsaf Abercynon (Parcio a Theithio). Còd Post agosaf CF454SN. O Gaerdydd (A470), trowch i’r chwith ar y B4275 ger Cilfynydd. O Ferthyr neu Aberdâr, cymerwch y A472 (Ystrad Mynach) ar Gylchfan Abercynon, ac ar ôl hanner milltir, ar y cylchfan trowch i’r dde ar y A4054 (Cilfynydd). Mae’r B4275 ar y dde ar ôl milltir. Dilynwch yr arwyddion i’r Parcio a Theithio Dim mynediad i’r maes parcio o ganol y dre (Station Road). | ST082947 | Alan Williams 07989451348 |
Rhaglen mis Ebrill
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
6 Ebrill 2024 | Ardal Brynbuga | Taith tua 6 milltir yn dilyn Afon Wysg a chaeau hen Ystâd Cefn Ila. Cyfle i ddarganfod hanes yr ardal a choedardd newydd Alfred Wallace. Peth dringo yma ac acw, gall fod yn fwdlyd ar ôl glaw trwm. Golygfeydd hyfryd dros Sir Fynwy. | Maes Parcio Maryport Street (North) Brynbuga. Parcio am ddim, toiledau a chaffi ar gael NP151ED | SO376007 | Sue Hogan 07733552285 |
13 Ebrill 2024 | Ardal Llanofer | Ardal Llanofer ger y Fenni yn cynnwys ystâd Llanofer, Eglwys Sant Bartholomew a’r gamlas. Tua 6 milltir | Cilfan ar yr A4042 i'r gogledd o Lanofer, ger safle bws Beili Glas. NP79HS | SO306097 | Ena Morris 07890611737 |
13 Ebrill 2024 Eto | Bwlch Nantyrarian | Taith yn cynnwys llwybrau llai adnabyddus Bwlch Nantyrarian. Golygfeydd gwych - a barcutiaid! Disgynfa eithaf serth i ddechrau, a dringo cymedrol ar lwybrau da ar ail hanner y daith. Tua 6 milltir | Parcio di-dâl yn y gilfan ar yr A44, neu dalu ym Maes Parcio'r ganolfan SY233AB (agosaf) | SN719813 | Bethan a Richard Hartnup 01970828533 rhartnup@hotmail.com |
20 Ebrill 2024 | Ystad Clytha, Ger Rhaglan | Taith tua 6 milltir ar hyd Afon Wysg. Byddwn yn ymweld â Betws Newydd, Eglwys Sant Aeddan a Chaer Oes Haearn Coed y Bwnydd (Gobeithio gweld y clychau’r gog). Peth dringo (gweddol) a nifer o sticlau. | Maes Parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cleidda (Clytha). NP79BG (agosaf) | SO361085 | Shelagh Fishlock 07951234618 |
Taith Flynyddol Cymdeithas Edward Llwyd 2024
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. Grid | Trefnyddion |
25 Ebrill 2024 | Taith Flynyddol Sir Benfro | 7 noson gyda chyfle i ymweld â’r arfordir, y Preselau a Tyddewi. Disgwylir trefnu teithiau amgen, llai heriol, yn lle rhai o’r Teithiau Maes isod | Plas Llwyngwair, Trefdraeth SA420LX | SN072395 | John Griffith 01286831091a Gareth Wyn Jones 01239654309 |
26 Ebrill 2024 | Ardal Maenclochog, Rosebush a'r Dafarn Sinc | Cylchdaith: Heibio teras y chwarelwyr, cwarre Bellstone, llyn oifad titwod tomos gleision, coedwig Pantmaenog, Bwlch Pennant, ar hyd y Feidir Aur, dringfa hamddenol i ben Fwêl Cwm Cerwyn (tua 500 metr), golygfeydd godidog, heibio ffatri gaws Pantmawr, nôl i Dafarn Sinc. 4 - 5 milltir. | Maes parcio Rhos y Bwlch SA667QU | SN075295 | Hefin Wyn 01437 532236 |
27 Ebrill 2024 | Llwyngwair, Llethrau Carn Ingli a Trefdraeth | Cylchdaith: Ffordd Cilgwyn llethrau is Carn Ingli, Garn Cwn, Castle Hill, Trefrdraeth. (paned) Parrog Pen y Bont, yr Afon Nyfer, a thrwy’r coed i Lwyngwair. Ffyrdd a llwybrau cefn gwlad, un ddringfa ysgafn, posib yn wlyb/ llithrig. 7-8 milltir | Plas Llwyngwair, Trefdraeth SA420LX | SN072395 | Hedd Ladd-Lewis 01239841294 07432565018 |
28 Ebrill 2024 | Crwydro Mynydd y Preselau | Gogoniant., golygfeydd a hynafiaeth y dirwedd, Dringfa serth ar y cychwyn wedyn cymharol wastad heblaw copa Carn Meini disgyn i Mynachlogddu. Llwybrau mynydd, tirewedd heriol. 6-7 milltir | Ger Maen Coffa Waldo Williams Mynachlogddu. Rhannu ceir i Dan y Garn. SA667SN | SN135303 | Gareth Wyn Jones 01239654309 07341623175 |
29 Ebrill 2024 Cychwyn 10.20 | Tŷ Ddewi i Solfach | Llwybr yr Arfordir. Posib yn greigiog, slip a mwdlyd. Dwy ddringad gweddol serth. 6 milltir | Maes Parcio Harbwr Solfach SA626UT Tâl £6. Erbyn 10.20 Dal bws am 10.41 | SM805243 | Eirian Davies 01792844821 07484107161 |
30 Ebrill 2024 | Garn Fawr i Bencaer (Strumble) | Cylchdaith Llwybr yr arfordir ac yn ôl drwy’r caeau. Gweddol rwydd, fynnu a lawr, camfeydd, rhai mannau gwlyb.7 milltir. | Maes parcio Garn Fawr. Dim tâl SA640LJ | SM898388 | Wesley Evans 01248680858 07762639076 |
1 Mai 2024 | Tyddewi a’r Arfordir Cyfagos | Cylchdaith, Capel Non, Tyddewi a’r Gadeirlan. Porthclais. Llwybr yr arfordir twmpathog, un darn serth, ffyrdd tawel. 7 milltir | Maes Parcio Bae Caerfai SA62 6QT | SM759243 | Gareth Wyn Jones 01239654309 07341623175 |
Rhaglen mis Mawrth
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
2 Mawrth 2024 | Penarth a Pharc Gwledig Cosmeston. | Cylchdaith tua 5 milltir yn cynnig cyfle i ymweld â’r pentref canoloesol yn y parc. Dychwelyd i Benarth ar yr hen reilffordd. Llwybrau cadarn heblaw am un man gallai fod yn fwdlyd. | Maes Parcio di-dâl Cliff Parade, ym mhen gorllewinol y Promenâd CF645BP | ST185704 | Heulwen a Huw Jones 07958129538 |
9 Mawrth 2024 | Ardal Caerfyrddin | Cylchdaith hamddenol, tua 6 milltir o amgylch y dre. Braidd dim dringo. | Maes parcio Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Heol Llansteffan, Tre Ioan Côd Post SA313NQ | SN401187 | Alun Voyle 01267275636 |
16 Mawrth 2024 | Dim Taith | ||||
23 Mawrth 2024 | Llwybrau’r Ysgol, Cylch Llanybydder/ Pencarreg | Taith tua 7 milltir, peth dringo yma ac acw, ambell sticil. | Maes parcio Ysgol Llanybydder, ar y B4337 SA409RP | SN528437 | Alun Jones 01570423231 Geoff Davies |
30 Mawrth 2024 | Yng Nghesail Fan Gyhirich | Dilyn hen dramffordd John Christie islaw Fan Gyhirych am Bwll Byfre Yn ôl ar drac yr hen reilffordd. Taith 7 milltir gyda golygfeydd gwych. Un ddringfa weddol serth, ond bir ar y dechrau. | Encilfa ar y llaw chwith o gyfeiriad Abercraf, ar yr A4067 sydd yn edrych i lawr ar gronfa ddŵr Crai. | SN881206 | Arwel Michael 01639844080 |
Rhaglen Mis Ionawr a Chwefror
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
6 Ionawr 2024 | Dim Taith | ||||
13 Ionawr 2024 | Parc Pont-y-pŵl | Taith tua 4 milltir yn crwydro Parc Pont-y-pŵl gan ddarganfod peth hanes y parc cyn dringo i’r gerddi Americanaidd a’r Groto. | Canolfan Hamdden Pont-y-pŵl NP48AT | SO285007 | Ena Morris 07890611737 |
20 Ionawr 2024 | Llanfihangel-ar-Arth | Tua 5 milltir, gall fod yn fwdlyd a phyllau dwr ar ôl tywydd garw, ychydig o ddringo. Dilyn Afon Teifi am ychydig, golygfeydd hyfryd | Parcio yn Neuadd Ysgol Llanfihangel. SA399JH | SN456395 | Ann Phillips 07833126327 |
27 Ionawr 2024 | Dim Taith | ||||
3 Chwef 2024 | Dim Taith | ||||
10 Chwef. 2024 | Placiau Glas Abertawe | Cylchdaith tua 7 milltir i weld y placiau glas sydd yn cofio rhai o bobol a sefydliadau’r ddinas. Peth dringo, llwybrau cadarn | Ger prif fynedfa Neuadd y Ddinas (Guildhall), gyferbyn a Llys y Goron. SA14PE | SS644925 | Eirian Davies 01792844821 |
17 Chwef 2024 | Radur/Landaf | Taith hamddenol, dim dringo, yn dilyn Afon Taf o Radur i Landaf. Cyfle i ymweld â’r Gadeirlan a Chwrt Insole. Dychwelyd i Radur ar y trên o’r Tyllgoed (Fairwater). Tua 5 milltir. | Maes Parcio Gorsaf Radur CF158AB (Station Road) | ST135805 | Alan Williams 07989451348 |
24 Chwef 2024 | Dim Taith |
Rhaglen mis Rhagfyr
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. Grid | Arweinydd |
2 Rhag 2023 | Ardal Penderyn Cychwyn am 11yb. | Cylchdaith hamddenol o ryw 3 milltir o gwmpas ardal Penderyn | Maes Parcio Canolfan Penderyn CF44 9UX | SN950079 | Gwyn Morgan 01685814348 |
9 Rhag 2023 | Taith/cinio’r Nadolig Cwmtwrch | Taith o ryw 3 milltir yn ardal Cwmtwrch, peth dringo, wedyn Cinio Nadolig (cerfdy/carvery) yn Nhafarn Y George, Cwmtwrch £24 yp. SA9 2XH | Maes Parcio Y George, Cwmtwrch Uchaf, sydd ar y brif heol drwy’r pentref. | SN754115 | Eirian Davies 01792844821 Mi fydd eisiau enwau a blaendal o £10 y pen arnaf erbyn 18fed o Dachwedd. |
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb |
Rhaglen mis Tachwedd
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. Grid | Arweinydd |
4 Tach 2023 | Machynlleth - y bryniau rhwng Forge a Glanmerin, yn cynnwys rhan o Lwybr Glyndŵr. | Tua 7 milltir ar lwybrau a thraciau da, er gall fod yn wlyb o dan draed mewn mannau. Tipyn o ddringo. Golygfeydd godidog dros yr ardal. | Maes parcio di-dâl ger Plas Machynlleth. Troi o’r A487 yn y gylchfan i’r de o’r dref. Heibio’r hen lodge a thrwy’r gât. SY20 8EU | SH744004 | Bethan Hartnup 01970828533 |
11 Tach 2023 | Cwm Sirhywi | Ymweliad arall â Pharc Gwledig Cwm Sirhywi, Caerffili, ond y tro yma, anelu tua'r gogledd i fyny'r cwm. Cyfle i weld y coedwigoedd yn eu hysblander hydrefol. Tua 5 milltir | Maes Parcio Heol Ynys Hywel, Cwmfelinfach. (O Gasnewydd) Chwith i Stryd Islwyn yng Nghwmfelinfach heibio Capel y Babell, lawr y lôn gul ger yr afon. maes parcio ar y dde. NP117JD (côd post Canolfan Ynys Hywel +1/2 milltir) | ST189912 | Jackie James 07974696416 |
18 Tach 2023 D.S. Wedi'i chanslo | Ardal Caerfyrddin | Cylchdaith hamddenol, tua 6 milltir o amgylch y dre. Braidd dim dringo. | Maes parcio Canolfan Hamdden Caerfyrddin,Heol Llansteffan, Tre Ioan Côd Post SA31 3NQ | SN401187 | Alun Voyle 01267275636 |
25 Tach 2023 | Y Fenni Gofilon | Taith tua 5 milltir, drwy Ddolydd y Castell i Llan-ffwyst, ar hyd y gamlas i gyrraedd Gofilon ac yn ôl ar yr hen reilffordd. Llwybrau cadarn a gwastad (un lon serth a rhes o risiau) Opsiwn i ymweld â’r castell ar ddiwedd y daith. | Cwrdd wrth fynediad Gerddi Linda Vista sydd ym maes parcio Byfield Lane, Y Fenni NP7 5DL | SO296140 | Shelagh Fishlock 01179 856580 |
Rhaglen Mis Hydref
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. grid | Arweinydd |
7 Hydref 2023 | Camlas, Gwŷdd a Chwcw | Tua 6 milltir ar hyd Camlas Mynwy ac Aberhonddu, i fyny'r bryn i dafarn yr Ŵydd a'r Gwcw lle fydd yna siawns am seibiant a diod. | Maes parcio bach ar Heol Saron, oddi ar yr A4042; O'r gogledd ar y dde ar ôl pasio Llanofer. O’r de, ar y chwith ar ôl pasio Penperlleni NP4 0AE | SO319062 | Ena Morris 07890611737 |
14 Hydref 2023 | Archeoleg Ddiwydiannol Bryn-mawr a Chwm Clydach | Cylchdaith yn edrych ar yr archaeoleg ddiwydiannol ysblennydd sy’n gysylltiedig â Meistri Haearn drwg-enwog Nant-y-glo, Crawshay a Joseph Bailey. 8 milltir | Amgueddfa Bryn-mawr, Sgwâr y Farchnad, Bryn-mawr. NP23 4AJ | SO191117 | Frank Olding 01873856959 |
20 Hydref 2023 | Gwesty’r Diplomat Llanelli. | Y Gynhadledd Flynyddol. Dwy daith,un ar y Sadwrn a'r Sul, manylion isod | Heol Felinfoel, Llanelli SA15 3PJ | Cynhadledd Flynyddol. | |
21 Hydref 2023 | Taith y Gynhadledd 1. Llwybr yr Arfordir yn ardal Porth Tywyn | Taith hamddenol yn dilyn Ardal Porth Tywyn a’r Warchodfa Natur safle’r hen bwerdy Llwybrau cadarn, dim dringo. Tua 4 milltir. | Maes Parcio Harbwr Porth Tywyn (Dwyrain) Dilynwch y B4311 i’r harbwr ac i’r chwith o’r gylchfan i’r maes parcio ochr ddwyreiniol yr harbwr. Tâl £2.80. SA16 0LT | SN446002 | Alan Williams 07989451348 |
22 Hydref 2023 | Taith y Gynhadledd 2. Parc y Mileniwm | Taith fer o gwmpas Parc y Mileniwm | Cambrian Street, Llanelli SA152PN (Dilynwch y B4304 o ganol y dre i gylchfan ger Doc y Gogledd. Chwith i Marine Street syth i’r chwith i Cambrian Street ger Tafarn y New Cornish Arms.) | SS500994 | Alan Williams 07989451348 |
28 Hydref 2023 | Coedwig Cwmgiedd | Taith Hydrefol o amgylch Coedwig Giedd, gan basio nentydd Cyw, Ceiliog ac Iâr. | Maes Parcio Coedwig Giedd. SA91NA | SN791128 | Arwel Michael 01639844080 |
Rhaglen mis Medi
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
2 Medi 2023 | I gyfeiriad tarddiad Afon Tywi. | Dechrau islaw Nant-ystalwyn, dilyn y Tywi at Foel Prysgau. Tua 7 milltir | Rhwng Abergwesyn a Thregaron, parcio ger y troad i Hostel Ieuenctid Dolgoch | SN804570 | Arwel Michael 01639844080 |
9 Medi 2023 | Plas Gregynog Drenewydd (cyn-gartref y chwiorydd Davies) | Cylchdaith at Fwlch-y-ffridd. 3.5 milltir Wedyn, gerddi a hanes y plas.(a’r caffi!). | Maes parcio Plas Gregynog (Parcio yn £2.50) SY16 3PL | SO084973 | Carwen Wigley Vaughan 07929824733 |
16 Medi 2023 | Dyffryn Cennen | Dilyn Afon Cennen i bentref Trap, Bont Gelli a Chapel Soar. Dychwelyd heibio Eglwys Llandyfân a thros gopa Garreg Dwfn, Tua 8 milltir, gallu fod yn wlyb. | Maes Parcio Castell Carreg Cennen SA19 6UA | SN667193 | Richard Davies 07986 562584 |
23 Medi 2023 (Cychwyn am 10yb) | Tregroes a Chwm Cerdin | Taith gylch tua 5-6 milltir, gyda pheth dringo o Ddyffryn Llynod hyd at Llain. Gall fod draen a drysni a thir gwlyb mewn ambell fan. | Ysgol Tregroes SA44 4NN Taith wedi ei threfnu ar y cyd gyda Gŵyl Gerdded Llandysul. (Cychwyn am 10yb) | SN406448 | Eileen Curry 01559 362253 |
30 Medi 2023 | Pen Cemaes | Traeth Poppit i Ben Cemaes. Caeau agored, lonydd, Llwybr yr Arfordir. Tipyn o ddringo camfeudd. Tua 5 milltir. | Maes parcio traeth Poppit. Tâl. SA43 3LN | SN153484 | Beti Davies a Marina James (01545 571045. 07814868573) |
Rhaglen mis Gorffennaf
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
1 Gorff 2023 | Hud a Lledrith y Preselau | Cylchdaith fynyddig oddeutu 5 milltir yn llawn hanes, crwydro gogoniannau’r Mynydd, llwybrau esmwyth ar y cyfan. Bydd y daith yn cyflwyno blas y cynfyd wrth dramwyo’r llwybrau. Un ddringfa heriol ar gychwyn y daith. | Maen Coffa Waldo ym Mynachlog-ddu | SN135303 | Gareth Jones 01239654309 |
8 Gorff 2023 | Ardal Pantycelyn a Chefnarthen | Cylchdaith gymedrol o 8 milltir. | Maes parcio coedwig Halfway oddi ar y A40 rhwng Llanymddyfri a Phont Senni. Cod Post agosaf SA20 0SE | SN834327 | Audrey Price, 01550721612 |
15 Gorff 2023 | Ardal Carreg Cennen | Cylchdaith tua 6 milltir, peth dringo yma ac acw, un weddol serth. Llwybrau cadarn a heolydd tawel, sawl camfa. | Maes parcio Castell Carreg Cennen. Cod Post agosaf SA19 6UA | SN666193 | Eirian Davies 01792844821 |
22 Gorff 2023 D. S. taith wedi'i chanslo | Felindre Farchog a Beifil Taith wedi ei chanslo oherwydd rhagolygon y tywydd | Cylchdaith oddeutu 5 milltir yn cwmpasu hanes a phrydferthwch glannau Afon Nyfer. Adeiladau hanesyddol a meini hynafol yn rhan annatod o’r tirwedd hudolus hwn. Un ddringfa fer serth ar ddechrau’r daith, phum sticil. | Maes parcio Tafarn y Salutation ynghanol pentref Felindre Farchog. SA41 3UY (Gan mai hon yw taith olaf y tymor, y bwriad yw galw am ddiod neu luniaeth ysgafn yn y Salutation wedi’r daith.) | SN100390 | Gareth Jones Hedd Ladd 01239654309 |
Rhaglen mis Mehefin
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
3 Meh 2023 | Drygan Fawr (D.S. newid i'r daith wreiddiol) | Taith tua 6.5 milltir, yn dechrau yn weddol hamddenol ar lwybrau mynyddig i gopa'r mynydd. | Ger yr Irfon, Llanerchyrfa, sydd tua 2.25 ,milltir o bentref Abergwesyn i gyfeiriad Tregaron Côd Post agosaf LD5 4TR | SN836555 | Arwel Michael 01639844080 |
10 Meh 2023 Taith wedi ei chanslo | *Taith wedi ei chanslo, aildrefnu yn y dyfodol* Dwy gronfa ddŵr rhwng Ffwrnes a Felinfoel, Llanelli. | Cylchdaith tua 6 milltir o Lyn Trebeddrod (Pownd Ffwrnes) i Gronfa Ddŵr Lliedi Isaf. Dychwelyd ar hyd llwybr hen Reilffordd Llanelly a Mynydd Mawr gan ymweld â Pharc Howard ar y ffordd. Peth dringo – ond dringo cymedrol ar y cyfan, a’r darnau mwy heriol yn rhai byr. Ardal gyfoethog ei hanes diwydiannol. Y cronfeydd yn rhan o rwydwaith ecolegol gwerthfawr. | *Taith wedi ei chanslo* Maes parcio Llyn Trebeddrod. Côd post agosaf SA15 4HE | SN504022 | Enid Jones 01267233987, 07495992138, 07483249980 |
17 Meh 2023 | Bosherston a Barafundle | Cylchdaith 7 milltir o hyd sydd yn dilyn glannau Llynnoedd Bosherston ac Arfordir Penfro. Dwy ddringfa raddol a llwybrau caregog mewn mannau. | Maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Bosherston (tu cefn i’r Eglwys) Tâl am barcio ( Arian parod neu gerdyn) Côd post agosaf SA71 5DN | SR966947 | Gareth Jones 01239654309 |
24 Meh 2023 | Y Mwmbwls a Baeau Rotherslade a Langland | Taith hamddenol, tua 5 milltir, (peth dringo ac un rhes o risiau) i edrych ar rhai agweddau o hanes yr ardal. | Maes parcio Knab Rock, (tâl), gyferbyn â Chlwb Hwylio’r Mwmbwls. SA3 4EL | SS627876 | Martin Jones 07715619523 |
Rhaglen mis Mai
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
6 Mai 2023 | Cwmfelinfach, Cwm Sirhywi | Ymweliad â Pharc Gwledig Cwm Sirhywi, Caerffili. Cyfle i weld Y Babell, capel y bardd Islwyn, ac i gael blas ar hanes yr ardal a gweld blodau’r gwanwyn yn y warchodfa natur. Tua 5 milltir | Maes Parcio Heol Ynys Hywel, Cwmfelinfach. Trowch i’r chwith (o gyfeiriad Casnewydd) yng Nghwmfelinfach i lawr Stryd Islwyn, heibio Capel y Babell ac i lawr y lôn gul ger yr afon i’r maes parcio ar y dde. Côd Post agosaf NP11 7JD (dyma côd post Canolfan Ynys Hywel sydd rhyw hanner milltir heibio’r maes parcio). | ST189912 | Jackie James 07974696416 |
13 Mai 2023 | Ardal Parkmill/Cwm Iston, Bro Gwyr. | Cylchdaith tua 6 milltir, dringo yma ac acw, gallu fod yn fwdlyd mewn ambell fan. Un man serth ar ddiwedd y daith yn dringo allan o Fae'r Tri Chlogwyn. Llwybrau caregog a heolydd tawel | Ar yr A4118, dringo allan o Parkmill, droi i’r dde ar ben y tyle ger Eglwys Penmaen, croesi’r grid gwartheg a pharcio ar y dde. Côd post agosaf SA3 2HQ (D.S. Anwybyddwch unrhyw arwydd yn dweud bod y ffordd tua'r maes parcio ar gau.) | SS532887 | Eirian Davies 01792844821 |
13 Mai 2023 | Nant yr Eira (ar y cyd a'r G. Dd.) | Taith yn seiliedig ar y cwm a anfarwolir yn y gerdd gan Iorwerth Peate. Cawn gwmni Beryl Vaughan. Peth dringo ysgafn, tua 5m. | Capel Biwla, Neinthirion. Dilynwch y lôn wledig i’r de-orllewin o Lanerfyl am oddetu 6m neu’r un tua’r gogledd o Dalerddig ar yr A470. | SH964066 | Bernard Gillespie 01588 620668 |
20 Mai 2023 | Dim Taith | ||||
27 Mai 2023 | Cwm Nedd Fechan | Cyfle i ddilyn Cwm Nedd Fechan a gweld y rhaeadrau hyfryd yn y rhan yma o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r llwybr yn dilyn y ceunant, ddigon hawdd ar y cyfan ond rhaid cymryd gofal gydag ambell i fan serth. Tua 5 milltir. | Tu allan i dafarn Yr Angel, Pontneddfechan. Awgrymir parcio wrth ochr yr heol (B4242) o Lyn-nedd i Bontneddfechan cyn cyrraedd y dafarn. Côd post SA11 5NR. | SN900076 | Alan Williams 07989451348 |
Rhaglen mis Ebrill
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
1 Ebrill 2023 | Mynachlog Fawr a cherflun Y Pererin Ystrad Fflur | Bydd Charles Arch yn rhoi hanes y lle hynafol yma am 10.45 yn y Beudy Bach . Sylwer Fe fydd arddangosfa'r Tŷ Pair ar agor am ddeg . Ambell fan serth a gwlyb, ffyn yn fanteisiol Fydd paned ar gael ar y diwedd cyfraniad os yn bosib plîs. www.ystradfflur.org.uk Pellter tua 6 milltir, un dringad weddol serth. | Maes parcio Ystrad Fflur SY256ES | SN746656 | Geoff Davies 07975893532 neu e bost davies_enlli@hotmail.com |
8 Ebrill 2023 | ‘Rwy’n Gweld o Bell y Dydd yn Dod,’ Ardal Cwmllynfell. | Cylchdaith hamddenol tua 6 milltir, braidd dim dringo, yn ymweld â fferm Ddol Gam, man geni Watcyn Wyn. Llwybrau cadarn, ond un man gwlyb. | Maes parcio ger y parc ar heol Penygraig, Ystradowen, Cwmllynfell. SA92YP | SN752124 | Eirian Davies 01792 844821 |
15 Ebrill 2023 | Y Garn Goch a Thrichrug | Cylchdaith tua 7 milltir, Cofeb Gwynfor Evans, Y Garn Goch ac ochrau Trichrug. Dwy ddringfa serth ar yr heol/ llwybrau mynyddig. Yn ôl ei ddymuniad fe fyddwn yn gwasgaru llwch y diweddar John Harry, ym mhresenoldeb ei deulu, ger cofeb Gwynfor. Croeso i chi ymuno a ni ger y gofeb yn unig. | Capel Bethlehem Côd Post agosaf SA196AL | SN687249 | Peter Evans 01269 832204 |
22 Ebrill 2023 | Crwbin | Ymweld â safleoedd archeolegol a chwarrau Mynydd Llangyndeyrn. Tua 5 milltir, peth dringo hamddenol. | Ar y sgwâr ar y B4306 (troad Meinciau/lloches bysiau) rhwng Bancffosfelen/Crwbin. Côd Post agosaf SA175DA | SN481126 | Mal James 01269870085 |
29 Ebrill 2023 | Cofeb Carlo (Ardal Blaenafon) | Taith gylch tua 5.5 milltir gyda thipyn o ddringo i ben Mynydd Farteg Fawr. Rhai llwybrau garw. | Arhosfa’n ger Canolfan Cymunedol y Varteg. Ar y chwith ar y B4246 os ydych chi'n dod o Flaenafon, ar y dde os ydych chi'n dod o Garndiffaith. Côd Post agosaf NP47RT. | SO266059 | Ena Morris. 07890611737 |
Rhaglen mis Mawrth
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
4 Mawrth 2023 | Caerllion a’r Ardal | Olion Rhufeinig a lleoliadau hanesyddol yn y dre, wedyn taith fer i Fryn Cas-gwen; rhai mannau serth a mwdlyd. 5 milltir | Maes Parcio Cold Bath Road, (dim tâl) Caerllion NP181NF | ST334907 | Shelagh Fishlock 07951234618 |
Y Mwmbwls a Baeau Rotherslade a Langland | Taith hamddenol, tua 5 milltir, (peth dringo ac un rhes o risiau) i edrych ar rhai agweddau o hanes yr ardal. | Maes parcio Knab Rock, (tâl), gyferbyn a Chlwb Hwylio’r Mwmbwls. SA34EL | SS627876 | Martin Jones 07715619523 | |
D.S. Taith wedi'i chanslo | Archeoleg Ddiwydiannol Bryn-mawr a Chwm Clydach | Golwg ar yr archaeoleg ddiwydiannol sy’n gysylltiedig â Meistri Haearn Nant-y-glo, Crawshay a Joseph Bailey. Gwaith haearn a rheilffordd Clydach 1794, Rheilffordd Merthyr, Tredegar a’r Fenni. 6 milltir. | Amgueddfa Bryn-mawr, Sgwâr y Farchnad, Bryn-mawr, NP234AJ | SO191117 | Frank Olding 01873856959 |
25 Mawrth 2023 | Yng Nghanol y Bryniau, ardal Dde Ddwyrain Mynyddoedd Duon, Sir Fynwy. | Taith tua 7 milltir ar lwybrau hanesyddol. Peth dringo dros Dwyn y Gaer, wedyn lawr i gwm Grwyne Fawr ac yn ôl o amgylch y Gaer | Maes parcio Fforest Cwm Iou (ddim ar y map). Trowch i’r chwith i fyny’r lôn gul gyferbyn â thafarn y Queens Head. Côd Post agosaf. NP77NE | SO306221 | Olwen Jones 01873857866 |
Rhaglen mis Chwefror
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
4 Chwef. 2023 | Cwmllynfell/Cwmtwrch (Uchaf!) | Taith ffigwr 8, tua 6.5 milltir, peth dringo, (weddol hamddenol), llwybrau cadarn. | Maes parcio ger y parc ar Heol Penygraig, Ystradowen, Cwmllynfell SA9 2YP | SN752124 | Eirian Davies 01792 844821 |
11 Chwef. 2023 | Llys-faen, Caerdydd | Taith hamddenol tua 5 milltir yng Ngogledd Caerdydd o Lys-faen i Barc y Rhath trwy Goed Nant Fawr. Dim dringo. Dychwelyd i Lys-faen ar y trên - £2.90 neu £1.90 gyda’ch Cerdyn Teithio Rhatach Cymru. | Maes Parcio Gorsaf Trenau Llys-faen, Cherry Orchard Road. Cod Post agosaf CF14 0UE | ST178835 | Alan Williams 07989 451348 |
D.S Taith wedi'i chanslo | Dyffryn Cennen | Dilyn Afon Cennen lawr i bentref Trap ac ymlaen i Bont Gelli a Chapel Soar. Y ffordd nôl bydd heibio Eglwys Llandyfân a dros Garreg Dwfn, y copa mwyaf gorllewinol yn y Parc Cenedlaethol. Tua 8 milltir, gallu fod yn wlyb. | Maes parcio Castell Carreg Cennen, SA19 6UA | SN667193 | Richard Davies 07986 562 584 |
25 Chwef. 2023 | Cronfa Ddŵr Cwm Wysg | Taith 7 milltir esmwyth a hamddenol o amgylch y gronfa ddŵr. Ymlaen heibio’r Fedw Fawr ac edrych at geunant Afon Clydach o Fryn yr Wyn. | Maes parcio Coedwig Glasfynydd, Pont ar Wysg. Cod Post agosaf LD3 8YF | SN820271 | Arwel Michael 01639 844080 |
Rhaglen Mis Ionawr
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
7 Ion. 2023 | Dim Taith | ||||
Gohiriwyd oherwydd y tywydd | Rhwng Trinant a Nant Melyn. Blaen Wysg | Taith Archeolegol tua wyth milltir. Peth dringo gweddol esmwyth. Hefyd edrych ar weddillion Lancaster W4929 | Maes parcio Coedwig Glasfynydd, Pont ar Wysg. Cod Post agosaf LD3 8YF | SN820271 | Arwel Michael 01639 844080 |
21 Ion. 2023 | Dim Taith | ||||
28 Ion. 2023 | Dim Taith |
Rhaglen Mis Rhagfyr
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
3 Rhagfyr | Lle i enaid gael llonydd. | Cylchdaith tua 5 milltir; i fyny i Goed Graig Ddu, ymlaen i Flaen Cwm Ffrwd cyn troi yn ôl ar hyd troed Mynydd Farteg. | Maes parcio Clwb Rygbi Talywaun Cod post agosaf NP47RQ | SO259045 | Ena Morris 07890611737 01495772996 |
10 Rhagfyr | Cinio Nadolig | Taith wedi'i chanslo oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Cinio Nadolig i bawb sydd wedi bwcio yng Nghegin Gareth Richards am 12:30. | Cegin Gareth SA48 7JP | SN562474 | Alun Jones 01570423231, ar ôl 6 y nos |
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. |
Rhaglen Mis Tachwedd
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. Grid | Arweinydd(ion) |
5 Tach. | Bedd Taliesin a Chae’r Arglwyddes | Taith gymedrol o tua 7 milltir. Lonydd, traciau a llwybrau gyda dringfeydd a pheth rhostir garw. Nifer o sticlau. Ychydig o fannau gwlyb. | Cwm Ceulan. O gyfeiriad Tal-y-bont, dilynwch arwydd “Nant y moch”. Culfan ar ochr chwith y lôn ar ôl troad fferm Glanrafon ond cyn cyrraedd fferm Carreg Cadwgan | SN688901 | Jackie Willmington ysgirfennydd.cof@cymdeithasedwardllwyd.com 01970820370 0781289454 |
12 Tach. | Ardal Llanymddyfri | Cylchdaith tua 7 milltir a fydd yn ymweld â thir y brenin. Peth dringo ac ambell fan gwlyb. | Maes Parcio yng nghanol Llanymddyfri ger adfeilion y castell, tâl SA20 0AN | SN767342 | Audrey Price 01550721612 |
19 Tach. | Craig yr Allt, Caerdydd. | Cylchdaith tua 7 milltir, dringo i ben Craig yr Allt a disgyniad serth i lawr i Gwm Nofydd, ambell fan mwdlyd. Cyfle i edrych ar dreftadaeth cloddio mwynhau haearn mewn Ardal Cadwraeth Arbennig. | Maes parcio Fforest Fawr. CF83 1NG | ST142839 | Margaret Levi 02920813029 |
26 Tach. | ‘Rwy’n Gweld o Bell y Dydd yn Dod,’ Ardal Cwmllynfell. | Cylchdaith hamddenol tua 6 milltir, braidd dim dringo, yn ymweld â fferm Ddol Gam, man geni Watcyn Wyn. Llwybrau cadarn, ond un man gwlyb. | Maes parcio ger y parc ar heol Pen-y-Graig ,Ystradowen, Cwmllynfell. SA9 2YP | SN752124 | Eirian Davies 0179844821 |
Rhaglen Mis Hydref
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. Grid | Arweinydd(ion) |
1 Hydref | Rheilffordd goll y Grwyne Fawr | Dilyn llwybr rheilffordd a godwyd er mwyn creu’r gronfa ddŵr. Dim llawer o olion amlwg ond mae ‘na stori ddiddorol yn cuddio yn y cwm. Gyrru 8 milltir lan y cwm, dilyn trywydd y rheilffordd i faes parcio Blaen y Cwm, at yr argae a dod nôl ar hyd y grib uwchben Capel y Ffin - 4 i 5 milltir. Cymedrol, ond agored ac uchel (500 i 600m). | Culfan gyferbyn â Llwyncelyn, ar y ffordd sy’n troi o Ddyffryn Honddu i gyfeiriad Fforest Coal Pit. NP7 7NE | SO308217 | Jeff Davies 07854777019 01873856863 |
8 Hydref | Ardal Aberaeron a Ffos-y-ffin. | Cylchdaith tua 7 milltir ar lwybrau a ffyrdd gwledig. Golygfeydd eang. Bach o ddisgyniad serth tua diwedd y daith | Maes parcio Ysgol Gyfun Aberaeron SA46 0DT | SN460625 | Marina James 01545571045 07814868573 |
15 Hydref | Llwybr Arfordirol y Mileniwm, Llanelli | Cylchdaith tua 6 milltir yn dilyn Llwybr yr Arfordir, braidd dim dringo, llwybr cadarn ar y cyfan. Mi fydd yn bosib gadael y daith a mynd yn ôl mewn sawl man. | Parcio ar Stryd Cambrian, gyferbyn a Doc y Gogledd, ger Tafarn y New Cornish Arms. Ar gylchfan Lliedi , cymerwch y 3ydd allanfa (o gyfeiriad Abertawe) SA15 2PN | SS500994 | Gill ac Alun Griffiths 01269 594406 07792 562136 |
22 Hydref | Llanfihangel- y- Creuddyn | Cylchdaith gymedrol rhwng 5-6 milltir o ymyl Carreg Gwylfihangel i olwg Afon Rheidol ac yn ôl. Ychydig ddringo a thir gwlyb. | Yn ymyl Carreg Gwylfihangel | SN700767 | John Williams 01970 617173 |
29 Hydref | Cyfarfod Blynyddol | Gweler rhaglen Gwynedd a Môn am fanylion taith faes y Gynhadledd | Gwesty’r Celt, Caernarfon. | Elizabeth Roberts 01492 640591 |
Rhaglen Mis Medi
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. Grid | Arweinydd(ion) |
3 Medi | Ardal Drefach Felindre | Cylchdaith tua 7 milltir, a fydd yn ymweld â’r Amgueddfa Wlân yn Nhrefach; yn ôl trwy Gwmhiraeth | Ger Eglwys Sant Llawddog, Penboyr, (parcio yn gyfyngedig) SA44 5JE, Cod Post agosaf. | SN360362 | Gareth Jones 01269845682 |
10 Medi | Ardal Aberogwr | Taith hamddenol yn dilyn Llwybr Yr Arfordir i Gastell Ogwr a nôl dros y rhostir, tua 8 milltir. | Maes parcio, ar y dde, cyn mynd lawr y rhiw serth, rhwng Southerndown a Bae Dwnrhefn, tâl. CF32 0RT, Cod Post agosaf. | SS882734 | Richard Davies 02920842923 |
17 Medi | Crwydro’r Palleg | Cerdded ochr Brycheiniog Afon Twrch. Taith ddaearegol a hanesyddol tua 8 milltir, hamddenol. | Heol y Palleg, Cwm-twrch Isaf, dilynwch yr arwyddion am y Clwb Golff, ar ôl pasio mynedfa'r clwb ewch ymlaen tuag at Bont Tir-y-gof SA9 2QQ, Cod Post agosaf | SN769121 | Arwel Michael 01639844080 |
24 Medi | Cronfa Ddŵr Llys-y-Fran | Cylchdaith tua 6.25 milltir o amgylch y gronfa ddŵr, gyda chyfle i weld adar yr ardal. Ambell ddringfa yma ac acw, llwybrau cadarn. | Ger y ganolfan ymwelwyr, tâl £3, cerdyn yn unig. SA63 4RR, Cod Post agosaf. | SN040244 | Gareth Jones 01239654309 |
Rhaglen Mis Awst - Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, Tregaron
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf.Grid | Arweinydd |
30 Gorff. | Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, Tregaron | Pabell y Gymdeithas ar y Maes 30 Gorffennaf – 6_Awst | Maes yr Eisteddfod. Pabell Cymdeithas Edward Llwyd (Pabell 219-220) | SN680605 | |
3 Awst (11.00-12.00) | Lansiad Llyfrau 'Edward Lhwyd' a 'Parchedig yr Adar' | Lansiad llyfr Brynley Roberts ar Edward Llwyd (Cyfres Gwyddonwyr Cymru) ac i ddilyn lansiad llyfr Harri Williams –Parchedig yr Adar (Cymdeithas Edward Llwyd) | Maes yr Eisteddfod. Pabell Prifysgol Aberystwyth 11.00 tan 12.00 | SN680605 | Gareth Ffowc Roberts, Goronwy Wynne, Twm Elias, ac eraill. |
4 Awst (10.15) | Taith Faes yr Eisteddfod 'Rhwng Aeron a Theifi' | Taith linellol tua 6 milltir, heibio olion hen gartref y llenor Kitchener Davies. Dringo i eglwys Llanbadarn Odwyn (golygfeydd arbennig) ac yn ôl i Langeitho heibio cof golofn Daniel Rowlands. Mae mwy o fanylion y daith ar dudalen 56 y llyfr Fan Hyn a Fan 'Co. | Bydd bws (wedi ei logi gan y Gymdeithas) yn gadael y cylchdro ym mhentref Llangeitho am 10.15 y bore i fynd a phawb yn ôl i gyrion Tregaron. Cerdded yn ôl i Langeitho. Mae maes parcio bach yn Llangeitho ond mae'n bosib parcio ar rhai o heolydd y pentref. SY256TN | SN619597 | Anne Gwynne |
4 Awst (3.30) | Darlith yr Eisteddfod 'Gweithgareddau Canolfan Natur Ddyfi' | Bydd Alwyn Ifans Swyddog Project Gweilch y Ddyfi yn darlithio am ei waith yn y Ganolfan a datblygiad rhaglen gwarchod y Gweilch. | Maes yr Eisteddfod Pabell ‘Y Sffêr’ (Pentre Gwyddoniaeth) 3.30 – 4.15 y.p. | SN680605 | Darlithydd Alwyn Ifans, Swyddog Project, Canolfan Gweilch Bro Ddyfi. |
Rhaglen y De a'r Canolbarth - Gorffennaf 2022
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. Grid | Arweinydd(ion) |
2 Gorff. | Treftadaeth Iolo Morgannwg, ardal y Bont-faen | Taith tua 6.5 milltir (dewis byrrach, 4.5 milltir), 2 ddringfa raddol. | Maes parcio tu ôl i Neuadd Dre'r Bont-faen ar y Stryd Fawr (Tâl) Cod Post CF71 7DD | SS995746 | Shelagh Fishlock 01179856850 07951234618 |
9 Gorff. | Dim Taith | ||||
16 Gorff. | Ardal Bae Broughton, Bro Gŵyr | Cylchdaith tua 7 milltir, yn croesi Bae Broughton, heibio Burry Holmes, ymlaen i Fae Rhossili. Yn ôl ar draeth Whitford, un ddringfa weddol fer ar y diwedd. | Maes parcio Cwm Ivy, ym mhen pellaf pentref Llanmadog, (tâl) troi i’r dde ger yr eglwys. Cod Post agosaf SA3 1DE | SS439935 | Eirian Davies 01792844821 |
23 Gorff. | Boncath | Cylchdaith tua 6 milltir yn dilyn llwybrau a lonydd tawel yr ardal. Un ddringfa yn unig fydd arni ac nid yw honno’n rhy hir chwaith. Gall rhannau o’r daith fod yn wlyb dan draed. Dewch a sgidiau addas. Dewch a ffon hefyd - ma’ na thylwyth teg hynod beryglus yn cwato yn y cloddiau!!!! | Maes parcio Neuadd y Pentref Cod Post agosaf SA37 0JN | SN205383 | Hedd Ladd Lewis a Gareth Jones 01239654309 07507091689 |
Rhaglen y De a'r Canolbarth - Mehefin 2022
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. Grid | Arweinydd(ion) |
4 Meh. | Ardal arfordirol Pen-bre | Cylchdaith tua 7 milltir. Dilyn Llwybr yr Arfordir i Barc Gwledig Pen-bre. Yn cynnwys twyni a thraeth Cefn Sidan, llwybrau coediog a llecynnau agored y Parc. Taith wastad ac eithrio ambell ddarn byr. Rhai mannau mwdlyd yn bosib. Hanes morwrol a diwydiannol diddorol; amrywiaeth o blanhigion a bywyd gwyllt. Modd mwynhau paned ar y diwedd. | Maes parcio Llyfrgell Pen-bre (drws nesa i feithrinfa Serendipity) SA16 0TP | SN429010 | Enid Jones 01267233987 07495992138 07483249980 |
11 Meh. | O’r môr i’r mynydd- Ardal Dinas Cross | Cylchdaith oddeutu 7 milltir o hyd gyda golygfeydd hyfryd o ben Mynydd Dinas. Dringo cyson yn ystod rhan gyntaf y daith. Gellir cwtogi’r daith os dymunwch. | Maes Parcio Pwllgwaelod SA420SB Cod post agosaf | SN005398 | Gareth Jones 01239654309 07507091689 |
18 Meh. | Olion gweithfeydd mwyn Cwmsymlog, Cwmerfyn, Llywernog ac eraill. | Taith o tua saith milltir ar lwybrau. Peth dringo graddol yn yr hanner cyntaf. | Cwrdd ym maes parcio Llyn Pendam | SN710840. | Rees Thomas. 01970828772 07838259313 |
25 Meh. | Ardal Cilcennin ger Aberaeron | Taith hamddenol drwy gefn gwlad gyda golygfeydd eang o Ddyffryn Aeron. 5-6 milltir, ambell fan gwlyb yn bosib | Iard ysgol Cilcennin. SA488RH | SN519600 | Marina James 01545571045 |
Rhaglen y De a'r Canolbarth - Mai 2022
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. Grid | Arweinydd(ion) |
7 Mai | Ar Gyrion Pentyrch | Taith tua 5.5 milltir drwy gaeau ac ar ffyrdd gwledig o amgylch Pentyrch. Golygfeydd o Ddinas Caerdydd a Mynydd y Garth. Peth dringo graddol. Gall fod yn fwdlyd mewn mannau. | Maes parcio Clwb Rygbi Pentyrch, Heol Penuel - y pen pellaf o adeilad y Clwb. CF15 9QJ, Cod post agosaf | ST099816 | Huw Jones 07312122280 Heulwen Jones 07958129538 |
14 Mai | Tyddewi – Y Ddinas a’r Arfordir | Cylchdaith oddeutu 7 milltir o hyd (ond fe ellir ei chwtogi) o gwmpas y ddinas hudolus hon sy’n cwmpasu llwybr yr arfordir, hanes Dewi Sant a’r Gadeirlan ynghyd a thirwedd Pentir Dewi. Ambell ripyn cymedrol hwnt ac yma, ond mae’r llwybr yn serth allan o Borth Clais. | Maes Parcio Bae Caerfai. SA62 6QT, Cod Post agosaf | SM759243 | Gareth Jones 01239654309 07507091689 |
21 Mai | Bro Gŵyr | Cylchdaith tua 7 milltir, yn dilyn rhan o Lwybr yr Arfordir. Drwy Goed Nicholaston, (yn y gobaith fydd blodau'r gwanwyn i’w gweld) heibio Castell Penrice a dringo i fyny i Gefn Bryn, lle mae ambell ran yn serth. Mi fydd yna olygfeydd arbennig, os fydd yn sych! | Maes Parcio Penmaen, dilyn yr A4118 trwy bentref Parkmill, i fyny ‘r tyle a throi i’r dde ger yr eglwys. SA3 2HQ, Cod Post Agosaf | SS531888 | Eirian Davies 01792844821 |
28 Mai | Rhymni, Tredegar a’r Drenewydd | Dechrau yn Rhymni, dringo’n hamddenol dros y gweundir i Dredegar ac yn ôl trwy Barc Bryn Bach (cartref yr Eisteddfod yn 1990), a’r Drenewydd, pentref hanesyddol ag adeiladwyd yn 1830 ar gyfer gweithwyr y diwydiant haearn. Tua 7 milltir. | Gorsaf Trenau Rhymni NP22 5LR Mae trên 09.16 o Gaerdydd Canolog yn cyrraedd Rhymni am 10.18 (un trên bob awr). | SO111074 | Alan Williams 07989451348 |
Rhaglen y De a'r Canolbarth -Ebrill 2022
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. Grid | Arweinydd(ion) |
2 Ebrill | Plwyf Silian, ger Llanbedr Pont Steffan | Taith tua 6 milltir rhwng Y Tawela a’r Denys. Cwmins yn rhannu’r ardal, mwdlyd mewn ambell fan. | Ger Capel y Bedyddwyr, Silian Cod Post agosaf SA48 8AR | SN577508 | Beryl Williams 01570 422396 Alun Jones 01570 423231 |
9 Ebrill | Ystrad Fflur | Cylchdaith tua 7 milltir yn ardal Ystrad –fflur. Tipyn o ddringo cymedrol a pheth tir gwlyb. | Ger yr eglwys SY25 6ES | SN746657 | John Williams 01970 617173 |
16 Ebrill | Ardal Castell Newydd Emlyn | Cylchdaith tua 6 milltir yn dilyn Afon Teifi i Genarth ac yn ôl. Peth dringo, cymedrol. | Maes parcio yng nghanol y dref, ger y mart, tal. Cod post agosaf SA38 9BA | SN306407 | Alun Voyle 01267 275636. |
23 Ebrill | Marina a Dociau Abertawe | Cylchdaith hamddenol tua 5.75 milltir yn dilyn llwybr yr arfordir o Neuadd y Ddinas i'r Marina a'r Dociau ac yn ôl. Cyfle i weld y trawsnewidiadau sydd wedi digwydd yr ardal hanesyddol yma. Mae'r llwybr yn gadarn ac yn wastad, felly yn addas i bawb o bob oedran. Mi fydd cyfle i ddal y bws yn ôl ,os dymunir, o fan pellaf y daith | Maes parcio y tu allan i brif fynedfa Neuadd y Ddinas (Guildhall) Abertawe, gyferbyn a Llys y Goron. SA1 4PE | SS644925 | Eirian Davies 01792 844821 |
30 Ebrill | Dyffryn Aeron | Taith tua 7 milltir o amgylch Dyffryn Aeron gan roi sylw i ambell blas a fydd i’w weld ar y daith. | Parcio ger Eglwys Trefilan. Cod post agosaf SA48 8QZ | SN549571 | Beti Davies 01570 470350 |
Rhaglen y De a'r Canolbarth - Mawrth 2022
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. Grid | Arweinydd(ion) |
5 Mawrth | Ardal Y Cribarth | Taith ddaearegol a hanesyddol, tua 7 milltir, yn ardal Mynydd y Cribarth. Peth dringo i ddechrau ac yn esmwytho wedyn .Fe ddilynwn ran o afon hynafol sych i orffen | Maes Parcio Dan-yr-Ogof ar yr A4067. SA9 1GJ (cod post agosaf) | SN842164 | Arwel Michael 01639844080 |
12 Mawrth | Dim Taith | ||||
19 Mawrth | Aberteifi i Gastell Cilgerran | Taith tua 6.5 milltir yn dilyn lein Y Cardi Bach heibio Corsydd Teifi ag olion y chwareli llech. Golygfeydd o Gastell Aberteifi a cheunant trawiadol Afon Teifi. Taith ar y gwastad, a fydd yn llawn hanes a ffeithiau difyr. Peth tir mwdlyd drwy goedwig, bydd modd ymestyn neu leihau’r daith. Cyfle am goffi ar y diwedd. | Stad Ddiwydiannol Pentood/Yr Hen fart anifeiliaid SA43 3AD I osgoi'r dre, os ydych chi'n teithio o Aberystwyth neu Castellnewydd Emlyn ewch i'r ail gylchdro a dilyn yr arwydd at Stad Ddiwydiannol Pentood /Mart Anifeiliaid. Troi i'r dde cyn y bont i Station Road. | SN180457 | Geoff Davies 07975893532. |
26 Mawrth | Y Tair Carn Uchaf ac Isaf | O’r castell, dros Afon Cennen ac i fyny’r Mynydd Du i’r carneddi. Nôl heibio Llygad Llwchwr. Taith tua 7 milltir, diffyg llwybrau mewn mannau a rhai llethrau serth | Maes parcio Castell Carreg Cennen, Trap SA19 6UA (cod post agosaf) | SN666194 | Richard Davies 07986562584 |
Rhaglen y De a'r Canolbarth - Chwefror 2022
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. Grid | Arweinydd(ion) |
5 Chwefror | Dim Taith | ||||
12 Chwefror | Dim Taith | ||||
19 Chwefror Taith wedi ei gohirio tan 23 Ebrill | Marina a Dociau Abertawe | Cylchdaith hamddenol tua 5.5 milltir yn dilyn llwybr yr arfordir o Neuadd y Ddinas i'r Marina a'r Dociau ac yn ôl. Cyfle i weld y trawsnewidiadau sydd wedi digwydd yr ardal hanesyddol yma. Mae'r llwybr yn gadarn ac yn wastad, felli yn addas i bawb o bob oedran. Mi fydd cyfle i ddal y bws yn ôl ,os dymunir, o fan pellaf y daith | Maes parcio y tu allan i brif fynedfa Neuadd y Ddinas (Guildhall) Abertawe, gyferbyn a Llys y Goron. SA1 4PE | SS644925 | Eirian Davies 01792 844821 |
26 Chwefror | Cefn Onn, Caerdydd | Ymweliad â Pharc Cefn Onn, cylchdaith wedyn yn cynnwys dringo’n raddol i Gefnffordd Cwm Rhymni (man uchaf 250m) gyda golygfeydd ysblennydd o’r ddinas. Tua 5 milltir. | Maes Parcio Cefn Onn, Llysfaen, Caerdydd CF14 0UD. I’r rhai sydd am ddod ar y trên, mae Gorsaf Llysfaen rhyw 200 medr o Faes Parcio Cefn Onn. Trenau yn gadael Caerdydd Canolog bob 15 munud i Gaerffili, Bargod neu Rhymni (taith 15 munud). | ST178836 | Alan Williams 07989 451348 |
Rhaglen y De a’r Canolbarth - Ionawr 2022
Dyddiad | Teitl | Manylion | Man Cyfarfod | Cyf. Grid | Arweinydd(ion) |
15 Ionawr | Cronfeydd Lliw a Phlanhigfa Bryn Llefrith | Taith oddeutu chwe milltir. I fyny ochr dde'r gronfa isaf wedyn ymuno efo'r ffordd i fyny at y gronfa uchaf. Trwy ganol Bryn Llefrith cyn dychwelyd ar hyd lan y gronfa uchaf i ddychwelyd ar hyd yr argae cyn anelu yn ôl at y gronfa isaf. Yn ôl ar hyd ochr chwith y gronfa isaf a dros yr argae hwnnw hefyd. Llwybrau da ar y cyfan, ond ambell le mwdlyd. | Maes parcio Cronfeydd Dwr Dyffryn Lliw. (Tal £2.50) Cod Post agosaf SA5 7NP | SN650034 | Dewi Lewis 01792 842621 |
22 Ionawr | Dim Taith | ||||
29 Ionawr | Dim Taith |